Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 27 Ionawr 2016

Amser y cyfarfod: 13.30
 


(311)v3

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 01-16)

(15 munud)

NDM5935 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.

Dogfen Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

</AI3>

<AI4>

Cynnig i atal dros dro Reol Sefydlog 11.16 i ganiatáu i'r eitem nesaf o fusnes gael ei thrafod (5 munud)

 

NNDM5940 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i'r cynnig o dan eitem 4 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016.

</AI4>

<AI5>

4       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau o dan Reol Sefydlog 22.9 (Adroddiad 02-16)

(15 munud)

NNDM5937 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a

2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.

Dogfen Ategol:
Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad

</AI5>

<AI6>

5       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

(60 munud)

NDM5934 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi setliad llywodraeth leol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17;

2. Yn gresynu at gynigion i dorri'n sylweddol y cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r dreth gyngor;

3. Yn gresynu ymhellach at fethiant Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau lleol gwledig ledled Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch effaith setliad llywodraeth leol 2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr mewn sawl rhan o Gymru; a

4. Yn credu bod archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn angenrheidiol i sicrhau na fydd setliadau Llywodraeth Cymru  yn cael effaith anghymesur ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn galw am gyflwyno, yn y setliad hwn, y grant sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu bod diwygio llywodraeth leol yn gyfle i gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried tegwch, amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros gylch ariannu tair blynedd.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Plaid Cymru

(60 munud)

NDM5939 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;

2. Yn nodi cynllun economaidd tymor hir Plaid Cymru fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n cynnwys sefydlu corff masnach newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol; a

3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y ffaith bod gweinyddiaethau olynol Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant yn effeithiol.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru.

[os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl 'nodi' a mewnosod:

'cynllun economaidd tymor hir Llywodraeth y DU fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy'.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod y bydd y polisïau a nodir yn 'Cyrchfan Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn cyflawni datblygiad economaidd a chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.

Cyrchfan Cymru

Buddsoddi Cymru

Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru (Saesneg yn unig)

Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol bod:

a) yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau i fynd i'r afael â dympio dur gan Tsieina;

b) Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd camau i fynd i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y blaid Lafur;

c) Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes;

d) lleiafswm o ran y safonau sy'n ofynnol ar gyfer dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus;

e) pecyn o gefnogaeth i staff y disgwylir iddynt golli eu swyddi.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:

'ac yn galw am ddileu ardrethi busnes ar offer a pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort Talbot.'

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

(60 munud)

NDM5938 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod argyfwng tai yng Nghymru, gan nodi yn benodol:

a) bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;

b) yr amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol;

c) bod llawer o brynwyr tro cyntaf yn parhau i gael trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a

d) bod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn tenantiaid rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch cartrefi gwael yn y sector rhentu preifat.

2. Yn credu bod angen mwy o uchelgais i sicrhau bod pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy, sy'n gallu bod yn ffactor allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y dylai hyn gynnwys:

a) dyblu'r targed ar gyfer tai fforddiadwy i 20,000 yn ystod y Cynulliad nesaf;

b) cynllun rhentu i berchen i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal; ac

c) gweithredu i wella ansawdd a diogelwch cartrefi yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i feirniadu ar anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid.

Adroddiad Holmans - 'Future Need and Demand for Housing in Wales' (Sasesneg yn unig)

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:

bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o:

i) argymhellion adroddiad Holmans ynghylch adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;

ii) argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan, 'The Shape of Wales to Come', a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a

iii) y farn a fynegwyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol.

Adroddiad Sefydliad Bevan - The Shape of Wales to Come (Saesneg yn unig)

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 2:

Dileu 'dylai' a rhoi 'gallai' yn ei le.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys isbwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:

diwygio cyfraith tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr;

sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;

datblygu cwmnïau tai o dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn ymateb i angen lleol.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Gymru weithredu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly gwneud tai yn fwy fforddiadwy.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

 

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

 

NDM5936 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru.

Yr angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru a mwy o fuddsoddiad ynddynt.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>